Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar

Blant sy'n Derbyn Gofal

 

DYDD MERCHER 29 MEHEFIN 2015

12.00–13.30

 

Aelodau'r Cynulliad yn bresennol:

David Melding AC, y Dirprwy Lywydd – Cadeirydd

Aled Roberts - AC

Tomos Davies – staff cymorth Angela Burns AC

Yn bresennol:

Rhian Williams, Cynorthwyydd Personol/Ysgrifennydd Gweinyddol, Voices From Care

Christopher Dunn, Cydlynydd Datblygu, Voices from Care

Cafwyd ymddiheuriadau gan:

Janet Haworth - AC

Janet Finch-Saunders - AC

Menna Thomas, Swyddog Ymchwil a Pholisi, Barnardo's 

Hywel Ap Dafydd – Swyddog Polisi, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Deborah Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Voices From Care

Dr Emily Warren, Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Maethu Cymru

Maria Boffey, Rheolwr Datblygu Busnes Cymru, Rhwydwaith Maethu Cymru

CROESO A CHYFLWYNIAD GAN Y CADEIRYDD

Agorodd DM y cyfarfod a chroesawodd y rhai oedd yn bresennol.

COFNODION

Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2015 a chawsant eu cymeradwyo.

 

MATERION YN CODI

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

ETHOL CADEIRYDD AC YSGRIFENNYDD

Cynigiwyd gan Aled Roberts AC, ac eiliwyd gan Angela Burns AC, y dylid ailethol drwy gadarnhad DM fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n Derbyn Gofal, ac R. Williams yn Ysgrifennydd y grŵp.

CYFARFODYDD Y DYFODOL

Yn dilyn digwyddiad diweddar yn y Senedd fel rhan o'i Ymgyrch Pythefnos Gofal Maeth ac mewn ymateb i gynnig Dr. Warren i Rwydwaith Maethu Cymru wneud cyflwyniad mewn cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n Derbyn Gofal yn y dyfodol neu i gyflwyno gwybodaeth briffio i'r grŵp, cytunwyd y byddai'r grŵp yn hapus i gadw mewn cysylltiad, gan fod Aelodau'r Cynulliad o'r grŵp wedi mynd i'r Digwyddiad Cyfarfod Brecwast.

UNRHYW FATER ARALL

Dywedodd CD fod Voices From Care wrthi'n gweithio gyda'u partneriaid 5 Gwlad, gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon, ac fel rhan o ddigwyddiad cenedlaethol sy'n gobeithio cynnal digwyddiad ddydd Gwener 19 Chwefror 2016, yn dathlu llwyddiannau ac ochr gadarnhaol derbyn gofal a gadael gofal.  Eglurodd CD byddai'r digwyddiad yn rhywbeth penodol i bobli fanc.   Cytunodd DM i noddi Voices From Care drwy gynnal y digwyddiad yn Adeilad y Pierhead.

CAM I’W GYMRYD:    BYDDAI CD YN DRAFFTIO SYNIADAU PENDANT AC YMARFEROL AR GYFER Y DIGWYDDIAD.

CAM I’W GYMRYD:    S. SHARPE A RW I GYDWEITHIO O RAN NEILLTUO LLE YN Y PIERHEAD

Aeth CD ymlaen gan ddweud y byddai pob un o'r 5 gwlad yn cynnal digwyddiad ar yr un diwrnod, gyda phobl ifanc yn rhannu arfer da.  Teimlai DM fod hyn yn syniad gwych a dywedodd fod tuedd yn rhy aml i bwysleisio elfennau negyddol derbyn gofal ac y dylem hefyd ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol; er enghraifft, yr hyn sy'n gweithio, i ddod â rhywfaint o gydbwysedd. Roedd AR yn teimlo nad oedd rhai o'r pethau cadarnhaol yn gysylltiedig ag adnoddau.

CAM I’W GYMRYD:    AR I ROI MANYLION A DOD O HYD I GYN BRENTISIAID O GYNLLUN LLEOL A ALLAI O BOSIBL DDOD I'R DIGWYDDIAD HWN.

Rhoddodd DM grynodeb o'r hyn y mae'r grŵp wedi edrych arno o ran Strategaeth y Llywodraeth, yn benodol Cyrhaeddiad Addysgol fel rhywbeth y gallai'r grŵp ganolbwyntio arno, gan adael etifeddiaeth ar gyfer y Cynulliad newydd.  Cododd cwestiwn ynghylch canlyniad cael cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n Derbyn Gofal.

CAM GWEITHREDU:        DM YN RHOI CYNLLUN WRTH GEFN AT EI GILYDD A THREFNU OLYNYDD

Cadarnhaodd DM ei fod wedi ymateb i'r ymgynghoriad ar ran y Grŵp Trawsbleidiol sy'n Derbyn Gofal, gan bwysleisio'r rhannau pwysig.

Dywedodd AR fod dryswch ynghgylch y Bil Anghenion Ychwanegol; y disgwylir iddo gael ei gyflwyno fel Bil drafft a'r Cod Ymddygiad drafft a phryd yn union y byddai'n cael ei ryddhau.  Parhaodd AR gan ddweud bod problemau pwysig lle roedd y Llywodraeth yn erbyn dilyn yr un trywydd â Lloegr a'r Alban o ran cynlluniau a dyletswyddau ar awdurdodau lleol, gan ychwanegu nad oes unrhyw gostau wedi'u pennu hyd yn hyn, a oedd yn codi'r cwestiwn ei bod yn broses a gynlluniwyd.  

Dywedodd DM hyd yn hyn, nid oes unrhyw alwad am dystiolaeth wedi mynd allan a phwysleisiodd yr angen i gadw llygad ar hyn a phwysigrwydd adrodd yn ôl i unrhyw ymgynghoriad, gan ychwanegu pa mor bwysig ydoedd i Voices From Care gyfrannu a chysylltu gydag ef.

Cafwyd trafodaeth fer ynghylch prosiectau yng ngogledd Cymru, yn enwedig prosiect Wrecsam Warehouse a'i lwyddiant o ran creu cyfleoedd a phrofiad gwaith i bobl ifanc. Mae'r prosiect Warehouse, sy'n cael ei redeg gan berson sydd wedi bod mewn gofal/gofalwr maeth, yn darparu hyfforddiant mewn, er enghraifft, gosod brics, plastro, gwaith saer, mecaneg ac ati

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

CAM I’W GYMRYD:    RW I GYSYLLTU AG S. SHARPE AR GYFER DYDDIAD CYFARFOD YR HYDREF